Os ydych chi’n edrych am swydd dros dro neu barhaol gyda chyflogwyr sy’n chwilio am sgiliau iaith Gymraeg sy’n naill ai’n ddymunol neu’n hanfodol fe allwn ni helpu!
Fel y gallwn ni eich ystyried ar gyfer unrhyw swydd, bydd angen i chi gofrestru gyda Recriwtio Cyf . Y cwbl sydd ei angen yw i chi gyflwyno’ch CV a rhoi cymaint o wybodaeth i ni ag y bo modd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn dod i adnabod ein holl ymgeiswyr, drwy hynny fe allwn ni eich hyrwyddo chi a’ch sgiliau’n fwy effeithiol i’n cleientiaid.
Cofiwch, weithiau oherwydd cyfyngiadau amser, byddwn yn defnyddio ein cronfa ddata ymgeiswyr yn unig i lunio rhestr fer. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru gyda ni.
Mae Recriwtio Cyf yn deall y gall chwilio am waith newydd fod yn straen a chymryd llawer o amser – ein nod yw gwneud hi mor hawdd â phosib i chi gael swydd.
Rydym yn cynnig gwasanaeth personol ac yn treulio llawer o amser yn dod i’ch adnabod chi. O hynny ymlaen byddwn yn gweithio’n galed ar eich rhan gan weithio gyda chyflogwyr addas. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a chymorth amrywiol gan gynnwys cyngor cyfweliad a help i ysgrifennu CV.
Mae ein cleientiaid yn amrywio o gwmnïau bach annibynnol i gwmnïau mawr blaenllaw ac rydym yn ymdrin ag ystod eang o swyddi ar bob lefel – edrychwch ar ein hadran Swyddi Gwag i weld y pa swydd fyddai fwyaf addas ar eich cyfer.