
Rydym yn recriwtio ar rhan Canolfan Gelfyddydol Gymunedol yn Gwynedd sy’n chwilio am Rheolwr Neuadd.
Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am arwain a goruchwylio gweithgarwch y Neuadd, er mwyn sicrhau bod holl ddefnyddwyr y neuadd yn cael y profiad gorau posib o’r adnoddau newydd. Bydd hefyd yn gyfrifol am gydlynu digwyddiadau yn y neuadd, ac am hyrwyddo y neuadd, er mwyn sicrhau fod y defnydd gorau posib yn cael ei wneud o’r adnodd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Dyletswyddau
– Hyrwyddo defnydd o’r neuadd
– Ymgysylltu a’r cyhoedd a rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth o’r neuadd
– Sicrhau bod gwybodaeth ynglŷn a’r Neuadd ar gael i gynulleidfaoedd, yn yr ardal leol a thu hwnt
– Sicrhau bod gwybodaeth ynglŷn a’r Neuadd ar gael i gyrff allanol perthnasol, yn yr ardal leol a thu hwnt
– Gweithredu yn gadarnhaol i ddenu cynulleidfaoedd a defnyddwyr newydd i’r neuadd, er mwyn sicrhau bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o’r adnodd
Rheolaeth bob-dydd
– Trefnu a goruchwylio unrhyw waith angenrheidiol yn ymwneud a iechyd a diogelwch, cynnal a chadw, glanhau, a diogelwch
– Sicrhau bod y Neuadd yn cydymffurfio ac unrhyw reoliadau neu ofynion cyfreithlon ym maes iechyd a diogelwch, trwyddedu, ac yswiriant
– Cymeryd cyfrifoldeb dros osod y Neuadd, neu rannau o’r Neuadd i gyrff allanol
Cydlynu digwyddiadau
– Llunio rhaglen fywiog a blaengar o weithgareddau celfyddydol cymunedol i’w cynnal yn y Neuadd
– Gwneud trefniadau ar gyfer gwerthu a dosbarthu tocynnau, fel bo’r angen
– Gweithredu fel Rheolwr Blaen Tŷ yn ystod rhai digwyddiadau
– Rhoi cefnogaeth i unrhyw gwmnïau neu grwpiau allanol sydd yn defnyddio Neuadd Ogwen
– Trefnu lluniaeth a staff gweini, fel bo’r angen
Os ydych â diddordeb yn y swydd hon, fe fydd angen i chi gofrestru eich manylion a CV isod er mwyn dechrau’r broses ymgeisio.