
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyfrif ar gyfer client technoleg gwybodaeth yng Nghastell Newydd Emlyn sydd ag enw da a sefydlog ac wedi bod yn masnachu ers 1987.
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyfrif ar gyfer client technoleg gwybodaeth yng Nghastell Newydd Emlyn sydd ag enw da a sefydlog ac wedi bod yn masnachu ers 1987. Mae gan y cwmni hanes rhagorol o ran cadw staff ac yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau ar gyfer cyflogaeth o fewn diwydiant cymorth a gwerthu TG yng Nghymru.
Mae angen Rheolwr Cyfrif er mwyn atgyfnerthu ac ehangu yr hadran gwerthu sydd yn gwasanaethu ar draws Cymru a Lloegr.
Mae’r swydd newydd hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolyn profiadol ym maes gwerthu sydd ym medru dilysu hanes da o greu a throsi cyfleon. Mae’r gallu i feithrin a chynnal perthynas tymor-hir, sy’n fuddiol y ddwy-ffordd a gyda’r cwsmer yn ganolog, ynghyd ar gallu i deithio rhwng safleoedd yn hanfodol, tra bod profiad ym maes TG ar gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn ddelfrydol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli rhai cyfrifon cyfredol ond yn benodol bydd disgwyl iddo/iddi ddatblygu busnes newydd, bydd y gwaith hyn yn cael ei gefnogi gan strategaeth marchnata newydd y cwmni.
Mae’r swydd yma yn un heriol, cyffrous a buddiol i’r ymgeisydd delfrydol gyda chyflog sylfaen o £14,000 a phecyn bonws deniadol hyd at tua £40,000 WGET.
Os ydych â diddordeb yn y swydd hon, fe fydd angen i chi gofrestru eich manylion a CV isod er mwyn dechrau’r broses ymgeisio.