
Mae Recriwtio Cyf yn chwilio am Reolwr Bar ar gyfer cwmni poblogaidd yng nghanol Caerdydd.
Mae Recriwtio Cyf yn chwilio am Reolwr Bar ar gyfer cwmni poblogaidd yng nghanol Caerdydd.
Rydym yn edrych am unigolyn brwdfrydig i ymuno gyda thîm rheoli’r cwmni.
Mae’r cwmni yn adnabyddus fel un o brif ganolfannau cerddoriaeth fyw Cymru ac wedi trefnu gigs a digwyddiadau byw am dros 30 mlynedd. Dyma gyfle gwych i gyfrannu at ddatblygiad y cwmni.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn weithgar ac yn drefnus ac yn meddu ar o leiaf 1 blwyddyn o brofiad rheoli neu oruchwylio yn y diwydiant lletygarwch.
Bydd eich gwaith yn cynnwys y cyfrifoldebau canlynol:
– Rheoli yn ystod oriau agor, gan gynnwys goruchwylio a chyfarwyddo’r staff bar a’r staff diogelwch. Cydweithio gyda threfnwyr digwyddiadau, artistiaid a thechnegwyr fel bo’r angen
– Sicrhau bod y prosesau til yn cael eu dilyn yn gywir, a chyfrif a chofnodi’r incwm dyddiol
– Archebu, derbyn a chyfrif stoc
– Rheoli’r selar, gan gynnwys glanhau a chynnal y pibellau cwrw
– Gwneud ymchwil cyson i’r dewis stoc, gan gynnwys delio gyda chynrychiolwyr cwmnïau diodydd
– Gweithredu fel Goruchwyliwr Anheddau Dynodedig, yn unol â’r drwydded. Yn ddelfrydol mi fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus drwydded bersonol.
Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos
Mae’r cwmni hefyd yn gweithredu cynllun bonws.
Os ydych â diddordeb yn y swydd hon, fe fydd angen i chi gofrestru eich manylion a CV isod er mwyn dechrau’r broses ymgeisio.