
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r tîm wedi’i leoli yng nghanol dinas Caerdydd yn Rhif 2 Capital Quarter, dafliad carreg o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Cynghorydd Gwasanaeth Cymorth Ffôn Helpa Fi i Stopio
Cymhareb yw 1.6 (CAL) siaradwr Cymraeg
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol yng Nghymru, ac mae’n cyflogi 1700 o bobl. Cymerwch eiliad i ddarllen ein dogfennau ychwanegol i ddysgu mwy amdanom ni, ein gwerthoedd a’r gwaith gwych rydym yn ei wneud i ddiogelu a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
Mae Helpa Fi i Stopio yn wasanaeth GIG rhad ac am ddim sy’n ceisio rhoi’r cyfle gorau i smygwyr roi’r gorau iddi. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr brwdfrydig a medrus i ymuno â thîm ein canolfan Helpa Fi i Stopio i ddarparu cymorth rhoi’r gorau i smygu dros y ffôn i smygwyr ledled Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r tîm wedi’i leoli yng nghanol dinas Caerdydd yn Rhif 2 Capital Quarter, dafliad carreg o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Os oes gennych sgiliau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, os ydych yn mwynhau gweithio gyda’r cyhoedd, ac yn gallu ymdopi dan bwysau mewn amgylchedd gwaith prysur a heriol, rydym yn awyddus i glywed gennych chi, a byddem yn croesawu eich cais.
Mae’n hanfodol eich bod chi’n gallu siarad Cymraeg ar gyfer y rôl hon, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda’r nos ac ar ddydd Sadwrn weithiau.
Cymhareb yw 1.6 (CAL) siaradwr Cymraeg.
Cynigir y swydd hon ar sail barhaol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Lleoliad: Rhif 2 Capital Quarter, Caerdydd
Cyflog: £21,089 to £23,761 per annum pro rata
Cyfeirnod y swydd: 028-AC129-0619W
Dyddiad cau: 26 Mehefin 2019