Beth yw CV?
Mae CV yn gyfle i chi ‘werthu’ eich hun i gyflogwr. Mae’n hysbyseb o’ch sgiliau a’ch profiad. Mae’n bwysig creu argraff dda!
Rhaid i’ch CV fod:
- Yn glir, wedi’i osod ac wedi’i gyflwyno’n dda
- Wedi’i gynhyrchu ar brosesydd geiriau
- Dim mwy na 2 ochr o bapur A4
- Bod yn uniongyrchol ac yn ffeithiol
Oes gwahanol fathau o CV?
Mae gwahanol fathau o CV. Mae gennym ni rai enghreifftiau i chi a thempledi ar y wefan hon. Mae’n rhaid i chi benderfynu pa fath o CV sy’n iawn i chi ac i’r swydd rydych yn chwilio amdani. Mae’n bosib y bydd angen i chi ddefnyddio diwyg gwahanol a phwysleisio sgiliau gwahanol. Gall y wefan eich helpu gyda hynny.
Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy CV?
Darllenwch drwy’r daflen hon cyn dechrau defnyddio’r Adeiladydd CV. Cewch brintio copi a’i gadw wrth i chi lunio’ch CV ar-lein.
Manylion personol
Mae angen cynnwys:
- Eich enw llawn
- Cyfeiriad
- Ffôn / rhif symudol
- Cyfeiriad e-bost
Chi sy’n penderfynu a ydych chi am gynnwys eich oed, eich statws priodasol a’ch chenedligrwydd.
Proffil personol
Mae’n rhaid i hyn fod yn ddatganiad byr amdanoch chi – dylai gynnwys rhywbeth amdanoch chi a’ch dyheadau:
- 4 neu 5 llinell yn iawn
- Defnyddiwch eiriau cadarnhaol – mae gennym ni rai enghreifftiau ar y wefan i’ch helpu.
- Edrychwch ar y disgrifiad swydd a’i ddefnyddio fel canllaw i ysgrifennu’r adran hon.
Addysg a chymwysterau
Dylai’r adran hon o’ch CV ddechrau gyda’ch cymhwyster mwyaf diweddar/uchaf:
- Cofiwch gynnwys y cymwysterau sydd fwyaf perthnasol i’r swydd neu’r math o swydd rydych yn gobeithio ei chael.
- Peidiwch â llenwi’r dudalen gyda rhestr o gymwysterau, er enghraifft os oes gennych radd ni fydd angen nodi’ch canlyniadau TGAU i gyd. (Oni bai bod y swydd yn gofyn i chi gael pynciau TGAU penodol fel Mathemateg, Saesneg, Cymraeg neu Wyddoniaeth).
Hyfforddiant
Cofiwch gynnwys unrhyw hyfforddiant rydych wedi’i wneud sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn ceisio amdani:
- Cewch gynnwys hyfforddiant anffurfiol, er enghraifft dysgu paentio ac addurno gartref neu hyfforddiant yn y gwaith gyda chyflogwr. Hefyd, cewch gynnwys hyfforddiant mwy ffurfiol, er enghraifft dosbarth nos neu gwrs byr a wnaethoch fel rhan o’ch swydd. Y peth pwysicaf yw cadw’r manylion yn fyr ac yn berthnasol!
- Cofiwch – os ydych yn dweud y gallwch wneud rhywbeth, mae’n bosibl y bydd rhywun yn gofyn amdano yn y cyfweliad!
Sgiliau
Mae’r adran hon yn fodd i chi amlinellu’ch sgiliau:
- Dylech ganolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Darllenwch y disgrifiad swydd neu’r hysbyseb swydd.
- Defnyddiwch bwyntiau bwled.
- Byddwch yn bositif – mae gennym ni rai geiriau ar y wefan hon i’ch helpu.
- Cofiwch – os ydych yn dweud y gallwch wneud rhywbeth, mae’n bosibl y bydd rhywun yn gofyn am dystiolaeth neu fwy o wybodaeth yn y cyfweliad.
Cyflogaeth a phrofiad gwaith
Cewch gynnwys pob math o ‘waith’ yn yr adran hon. Cewch gynnwys gwaith â thâl ac unrhyw brofiad gwaith rydych wedi’i gael. Peidiwch ag anghofio cynnwys unrhyw waith gwirfoddol rydych wedi’i wneud.
- Rhaid cynnwys enw’r cyflogwr. Does dim angen cynnwys cyfeiriad llawn.
- Rhaid cynnwys y dyddiadau pan oeddech yn cael eich cyflogi.
- Rhaid cynnwys manylion am eich swydd. Esboniwch eich dyletswyddau a chyfrifoldebau. Ysgrifennwch fwy o fanylion am unrhyw swyddogaeth sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn ceisio amdani.
- Ceisiwch beidio â gadael bylchau yn eich hanes gwaith. Os oes bwlch, bydd rhaid ei esbonio ond byddwch yn bositif!
Gwybodaeth ychwanegol
Defnyddiwch yr adran hon i ychwanegu unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol yn eich barn chi. Cewch gynnwys chwaraeon, gweithgareddau cymunedol, diddordebau, llwyddiannau, trwydded yrru ac ati.
- Cadwch yr adran hon yn fyr ac yn berthnasol i’r swydd rydych yn ceisio amdani.
- Defnyddiwch bwyntiau bwled
Geirdai
Mae ‘Geirdai ar gael ar gais’ yn iawn.
- Bydd rhaid i chi ddarparu geirda – gan 2 berson fel arfer.
- Siaradwch ag o leiaf ddau ganolwr posibl. Dylai un fod yn gysylltiedig â gwaith os yn bosibl.
- Gallai’r llall fod yn athro neu ddarlithydd neu rywun sydd wedi eich adnabod yn ddigon hir i roi geirda cymeriad i chi.
Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano?
Os yw’r cyflogwr yn edrych am rywun i wneud swyddogaeth arbennig, er enghraifft cogydd, garddwr, cyfrifydd neu feddyg, bydd rhaid profi ar eich CV bod gennych y cymwysterau a’r profiad sy’n gysylltiedig â’r swydd a hysbysebir. Mae hyn yn golygu y byddwch angen cael gwybod cymaint â phosibl am y swydd cyn i chi ysgrifennu’ch CV. Gwiriwch y disgrifiad swydd ac unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael.
Hefyd bydd cyflogwyr yn edrych am bobl sy’n debygol o fod yn weithwyr da. Fel canllaw, mae llawer o gyflogwyr yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi’r nodweddion hyn mwyaf:
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gallu gweithio fel rhan o dîm
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun os oes angen
- Sgiliau trefnu da
- Brwdfrydedd
- Dibynadwyedd
- Gallu rheoli amser yn dda a phrydlondeb
- Gallu ymddiried ynoch
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau
- Gweithio’n dda dan bwysau
- Cymhelliad