Rydym wrth ein bodd yn meithrin perthynas gyda gweithwyr proffesiynol, creadigol, ac yn mwynhau rhwydweithio a dod o hyd i bobl ddawnus i weithio gyda nhw. Os ydych chi’n cyfeirio rhywun da atom ni, fe hoffem ni ddangos ein gwerthfawrogiad o hynny.
Mae ein cynllun Cyfeirio Cyfaill yn rhoi’r cyfle i chi dderbyn £150. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw argymell ffrind am swydd ac os ydynt yn llwyddiannus byddwch yn derbyn eich taliad o £150.
Os ydych chi’n gweld un o’n swyddi ac yn meddwl fod gennych chi’r ffrind delfrydol i’w llenwi, e-bostiwch post@recriwtio.com gyda manylion cyswllt eich cyfaill.
Dylai’ch ffrind fod yn rhywun hollol ddiarth i ni ac mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau eu 3 mis o gyfnod prawf yn llwyddiannus cyn y gallwch chi gael eich gwobr.