Cafodd Recriwtio Cyf ei sefydlu yn 2013 o ganlyniad i alw cleientiaid. Mae ein tîm hyfforddi proffesiynol yn ymroddedig i’r arfer recriwtio gorau ac mae gennym dros chwarter canrif o brofiad gwaith ym maes adnoddau dynol, recriwtio a hysbysebu swyddi.
Os ydych chi’n gyflogwr fe allwn eich helpu i recriwtio staff a hysbysebu swyddi mewn modd moesegol. Os ydych chi’n edrych am swydd fe allwn ni eich helpu i gael hyd i un. Angerdd, ymroddiad, cyfathrebu da, gofal a balchder yw rhai o’r geiriau sy’n disgrifio ein gwaith a’n hamcanion orau. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gwrdd ag anghenion ein cleientiaid a’u disgwyliadau busnes.
Mae didwylledd yn hanfodol i sicrhau perthynas fusnes hirhoedlog. Gyda hyn mewn golwg rydym yn ymdrin â phobl mewn modd gwybodus a gonest.
Yn syml, mae Recriwtio Cyf yn deall cymaint o straen y gall hi fod i lenwi swydd a chael y person cywir hefyd. Er mwyn sicrhau bod yr holl ddisgwyliadau yn cael eu bodloni mewn ffordd deg a phroffesiynol sydd ddim yn camwahaniaethu yn erbyn neb mae Recriwtio Cyf yn trin eraill fel y byddem yn dymuno cael ein trin eu hunain. Nid yw hyn yn golygu y gallwn warantu i gael popeth yn iawn bob tro. Fodd bynnag, bydd pawb sy’n rhoi eu dyfodol a’u hanghenion gwaith yn ein dwylo ni yn sicr o gael gwasanaeth cyflym, safonol, diffuant lle bynnag y bo’n bosib.
Nid ydym yn gwneud recriwtio yn broses gymhleth. Yn syml mae gennym ni sylfeini moesegol a chadarn yn eu lle i greu busnes sy’n ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau eraill.