Gwasanaeth recriwtio
Mae Asiantaeth Recriwtio Cyf yn darparu gwasanaeth recriwtio effeithiol amlbwrpas ac arloesol ar gyfer cyflogwyr ar hyd a lled Cymru. Mae gennym hanes llwyddiannus o weitio gyda rhai o fusnesau a sefydliadau mwyaf adnabyddus Cymru. Gallwn gymryd y pwysau a’r straen oddi ar eich gwaith recriwtio a bod yno pryd bynnag sydd ei angen.
Gwasanaeth hysbysebu
Gall hysbysebu swydd Gymraeg fod yn un o rannau drutaf eich proses recriwtio. Mae Asiantaeth Recriwtio Cyf yn gweithio gyda’n partneriaid dibynadwy ym myd y cyfryngau sy’n arbenigo mewn hysbysebu swyddi iaith Gymraeg. Gyda’n gilydd fe allwn sicrhau y bydd eich hysbyseb yn cyrraedd cynifer a phosib o bobl.
Gwasanaeth chwilio talent
Mae rhai swyddi gwag yn fwy anodd i’w llenwi nag eraill. Efallai fod hyn oherwydd bod angen sgiliau Cymraeg penodol neu oherwydd lleoliad y swydd neu natur allweddol y gwaith. Mae Asiantaeth Recriwtio Cyf yn medru darparu gwasanaeth chwilio am ymgeiswyr ar gyfer yr achlysuron hynny lle nad yw technegau recriwtio traddodiadol yn mynd i gyrraedd y gweithwyr gorau.
Dyma rai o’r cyflogwyr sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau